Cadarnhad dyraniad CFfGDU ar gyfer 2025-26
Mae dyraniad 2025-26 ar gyfer awdurdodau lleol arweiniol, gan gynnwys Gogledd Cymru, bellach wedi’i gyhoeddi ac mae ar gael YMA.
- Dyraniad CFfGDU 2025-26 ar gyfer Gogledd Cymru fydd £42,416,709.
- Gellir defnyddio dyraniad 2025-26 i gefnogi buddsoddiad mewn gweithgareddau rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Mae diweddariad technegol i brosbectws CFfGDU hefyd wedi’i gyhoeddi ac mae ar gael YMA.
Mae’r nodyn technegol hwn yn rhoi manylion y diweddariadau allweddol i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer 2025-26.
Tanwariant
Rydym wedi derbyn cadarnhad bod y dyddiad cau gwariant o 31 Mawrth 2025 ar gyfer cyllid CFfGDU a ddyrannwyd ar gyfer 2022-25 yn aros yr un fath ac na fydd yn cael ei ymestyn. Bydd unrhyw gyllid CFfGDU o ddyraniad 2022-25 nad yw wedi’i wario ar weithgareddau a gynhelir erbyn 31 Mawrth 2025 yn cael ei ddychwelyd i Lywodraeth y DU.
Darparwn ddiweddariad pellach cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.