Trosolwg
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Mae’r gronfa yn anelu at gyflawni hyn trwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:
- Cymuned a Lle
- Cefnogi Busnes Lleol
- Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhaglen ‘Lluosi’ i wella rhifedd oedolion)
Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r gronfa.
Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan y CFfGDU fynd i’r afael ag un, neu fwy, o’r 53 ymyriadau ar:
Rhaid i brosiectau hefyd gyflawni un neu fwy o’r allbynnau a’r canlyniadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.