Cais am Newid

Rydym yn falch o roi gwybod i chi fod y broses o wneud cais am newid ar gyfer prosiect SPF yng Ngogledd Cymru bellach wedi’i hymestyn i gynnwys darpariaeth i ofyn am estyniad i ddyddiad gorffen prosiect y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2024.

Fel y gwyddoch eisoes, mae’r rhaglen SPF ei hun yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan na fydd unrhyw newid i’r dyddiad cau hwn; bydd unrhyw arian SPF Gogledd Cymru sydd heb ei wario yn cael ei golli o’r rhanbarth.

Er mwyn uchafu’r cyfle i brosiectau orffen yn llwyddiannus; mae’r chwe Cyngor Gogledd Cymru wedi cytuno i ystyried ceisiadau i ymestyn dyddiadau gorffen prosiectau i’r cyfnod Ionawr i Mawrth 2025.  Dylid dim ond gofyn am yr isafswm sydd ei angen. 

Bydd ceisiadau i ymestyn dyddiad gorffen prosiect yn cael eu hystyried fesul achos a dim ond drwy eithriad, ble mae achos clir y bydd mwy o amser yn lliniaru risg o danberfformio (o ran gwariant a/neu ganlyniadau) neu alluogi allbynnau / deilliannau ychwanegol. 

(Noder y bydd yn rhaid ystyried ceisiadau unigol hefyd yng nghyd-destun SPF Gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd – ni fydd unrhyw rwymedigaeth ar Awdurdodau Lleol i ganiatáu estyniadau, bydd unrhyw benderfyniad i wneud hynny yn gwbl yn ôl eu disgresiwn.)

Fel sy’n wir am unrhyw newid sylweddol i brosiect, os yn dymuno gofyn am estyniad i ddyddiad gorffen eich prosiect, mae’n rhaid trafod gyda’ch Tîm SPF lleol yn y lle cyntaf cyn cwblhau a chyflwyno Cais am Newid ffurfiol. Mae fersiwn diweddaraf o’r ffurflen isod.

Ble ganiateir estyniad i ddyddiad gorffen prosiect, bydd hyn yn cael ei ffurfioli trwy lythyr o amrywiad i’r Cytundeb Cyllido Grant. Os roddir estyniad, rhaid i noddwyr y prosiect ymrwymo i ddarparu hawliadau amserol a chywir.