Cyflawni
Cyflawni’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Ngogledd Cymru
Mae’r awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru yn cydweithio i weinyddu’r gronfa. Mae pob penderfyniad ariannu yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal.
Awdurdodau lleol sy’n penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gyda chyngor gan bartneriaeth o randdeiliaid lleol.
Galwad Agored am brosiectau
Yn gynnar yn 2023 roedd galwad agored ar sefydliadau sy’n ceisio mwy na £250,000 o gyllid CFfG, i gyflwyno cais prosiect Amlinelliad Cam 1. Roedd yn bosib i ymgeiswyr gyflwyno cais i gyflawni prosiectau mewn un neu fwy o ardaloedd awdurdod lleol.
Daeth yr alwad agored am brosiectau a ariennir gan CFfG yng Ngogledd Cymru i ben ar 24 Chwefror 2023. Derbyniwyd dros 300 o geisiadau, yn gofyn am dros £250 miliwn o gyllid. Penderfynodd pob ardal awdurdod lleol os oeddent yn cefnogi cais.
Y drefn ymgeisio
Trosolwg o'r broses
Roedd ceisiadau am gyllid UKSPF yng Ngogledd Cymru yn dilyn proses dau gam:
Cam 1: cyflwyno cais prosiect amlinellol
Cam 2: cyflwyno cais prosiect manwl
Roedd Awdurdodau Lleol yn blaenoriaethu ac yn dewis prosiectau ar sail eu cais amlinellol Cam 1.
Bydd y prosiectau sy’n cael eu dewis yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais manwl Cam 2, fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynnig. Bydd cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ar ôl gwerthuso cais manwl Cam 2.
Cam 1 - Cyflwyno cais prosiect amlinellol
- Ystyriwch gymhwysedd eich cynnig drwy adolygu ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau’r UKSPF a’i aliniad ag anghenion a dyheadau’r ardal/ardaloedd yr ydych yn dymuno gweithredu ynddynt.
- Darllenwch y canllawiau ar gyfer cyflwyno cais prosiect amlinellol cam 1 a chasglwch yr holl wybodaeth sy’n ofynnol drwy adolygu’r fersiwn all-lein o’r ffurflen gais cam 1. (Darperir y fersiwn all-lein fel dogfen y gellir ei golygu i’ch helpu i baratoi).
- Defnyddiwch y ddolen isod i gwblhau a chyflwyno eich cais prosiect amlinellol cam 1 trwy y porth ar-lein rhanbarthol cyn hanner dydd ddydd Gwener, 24 Chwefror 2023 (noder mai dim ond ceisiadau a gyflwynir drwy’r porth ar-lein fydd yn cael eu hystyried).
Y camau nesaf ar ôl derbyn ceisiadau fydd:
- Bydd y cais yn cael ei werthuso gan y tîm Cronfa Ffyniant Gyffredin lleol perthnasol (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol yn unig) neu dîm rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Gyffredin (prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol).
- Gofynnir am farn rhanddeiliaid perthnasol.
- Bydd y Panel Cynghori Lleol (neu Baneli yn achos prosiectau sy’n ceisio cyflawni mewn mwy nag un ardal Awdurdod Lleol) yn asesu ac yn blaenoriaethu’r prosiectau sydd i law ac yn gwneud argymhellion i’r Awdurdod / Awdurdodau Lleol.
- Awdurdod / Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau y maent am eu cefnogi.
- Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o’r penderfyniad.
- Ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i baratoi a chyflwyno cais prosiect manwl cam 2.
Cam 2 - Cyflwyno cais prosiect manwl
- Cyflwynwch eich cais prosiect manwl cam 2 trwy ein porth ar-lein. (Bydd y ddolen i’r porth yn cael ei e-bostio atoch chi.)
- Wedi i’r ceisiadau prosiect manwl cam 2 gael eu derbyn; bydd asesiadau pellach a gwiriadau diwydrwydd terfynol ar yr ymgeiswyr yn cael eu cwblhau.
- Awdurdod Lleol / Awdurdodau yn cadarnhau penderfyniad terfynol ar y cais.
- Cytundebau cyllid grant ffurfiol yn cael eu rhyddhau gan y tîm rhanbarthol ar ran Awdurdod / Awdurdodau Lleol.
Bydd yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau yn amrywio yn ôl y broses / trefn bob Awdurdod Lleol. Mae gwybodaeth am yr amserlen a ragwelir ar gyfer pob Awdurdod Lleol ar gael ar eu gwefan.
PETHAU PWYSIG I'W GWYBOD
- Mae’r amserlen ar gyfer cyflawni’r UKSPF yn fyr; yn ymarferol, bydd angen bob prosiect ddod i ben a chyflwyno’u hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024, er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau’r rhaglen.
- O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, bydd Awdurdodau Lleol yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ceisio o leiaf £250,000 o arian UKSPF; mae’r Awdurdodau Lleol yn rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd prosiectau a gefnogir yn ceisio £1 miliwn neu fwy o arian UKSPF.
- I alluogi busnesau, sefydliadau a chymunedau lleol sy’n ceisio symiau llai o gymorth cael mynediad at arian UKSPF; bydd y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn ceisio sefydlu cronfeydd cyfryngol yn lleol, gan ddarparu trefn ymgeisio, cymeradwyo a monitro symlach. Bydd gwybodaeth am y cronfeydd hyn yn ymddangos ar wefannau Awdurdodau Lleol unigol pan fydd ar gael.
- Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyraniadau UKSPF ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2025, dim ond yn flynyddol y caiff y cyllid ei gadarnhau. Bydd y cytundebau ariannu a ddarperir gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru i ymgeiswyr llwyddiannus yn adlewyrchu hyn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n ymrwymo i wariant y tu hwnt i’r cyfnod y caiff cyllid ei gadarnhau ar ei gyfer yn gwneud hynny ar ei risg eu hunain.
- Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan yr UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Gall ymgeiswyr felly gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu ceisiadau. Nodwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn arwyddo cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar risg eu hunain.
- Mae’r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy’n ceisio cyfuniad o’r ddau.
- Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y drefn:
https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime
- O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflawni’r UKSPF, bydd hyder yn y gallu cynigion a gyflwynir i gyflawni yn ystyriaeth allweddol i Awdurdodau Lleol ochr yn ochr â chapasiti a gallu’r sefydliad sy’n ymgeisio
-
Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi’r awdurdod(au) lleol i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu’r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Gwynedd.
Dewis prosiectau
Mae pob awdurdod lleol yn penderfynu sut y maent yn dymuno dewis prosiectau ar gyfer cefnogaeth CFfGDU. Fodd bynnag, bydd ystyriaethau cyffredin yn cynnwys:
- alinio cynigion â buddsoddiadau ac ymyriadau â blaenoriaeth y CFfGDU;
- allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cynigion;
- ychwaneged ac aliniad prosiectau arfaethedig gyda gweithgaredd presennol a gweithgaredd arfaethedig;
- y gallu i gyflawni a chapasiti / gallu’r ymgeisydd (gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a rheoliadol); a,
- aliniad cynigion gydag anghenion cenedlaethol, rhanbarthol ac, yn fwyaf arbennig, lleol.
Bydd ardaloedd lleol yn ystyried y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir yn ogystal â chynigion unigol, i sicrhau yr eir i’r afael ag anghenion eu hardaloedd ac amcanion blaenoriaethau buddsoddi’r CFfGDU.