Roedd Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU ar 30 Hydref 2024, yn cynnwys cyfeiriad at Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cyhoeddodd y Canghellor fwriad i barhau â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2025/26 ar gyfradd is (£900 miliwn i’r DU gyfan) am flwyddyn bontio cyn fod newid pellach i’r trefniadau ariannu.

Hyd yn hyn, ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth am sut y bydd y flwyddyn bontio yn gweithredu na faint o arian fydd ar gael i Ogledd Cymru.

  • Mae cadarnhad y bydd unrhyw gyllid presennol nad yw’n cael ei wario yn mynd yn ôl i Lywodraeth y DU (ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei drosglwyddo i 2025/26).
  • Mae’n hanfodol, felly, bod pob prosiect yn parhau i weithredu ar frys, yn gweithio tuag at ddyddiad gorffen y prosiect ac yn cyflwyno pob adroddiad cynnydd a hawliad ar amser.

Rydym yn monitro datblygiadau yn agos ac, gyda cyfeillion ledled Cymru, yn pwyso ar Lywodraethau’r DU a Chymru i gadarnhau’r trefniant ar gyfer 2025/26 cyn gynted ac y bo modd.

Darparwn ddiweddariad pellach cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael. Yn y cyfamser, cysylltwch â’ch tîm lleol neu cysylltwch a ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.