Llywodraethiant

Mae Rhaglen Ffyniant Cyffredin Gogledd Cymru yn cael ei llywodraethu gan Bwrdd Cydweithio Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru.   

Y Bwrdd Cydweithio yw’r bwrdd llywodraethu sy’n gyfrifol am unrhyw benderfyniadau sydd eu hangen i gyflawni a gweithredu Raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru yn llwyddiannus. Bydd hefyd yn goruchwylio ac yn helpu i hwyluso dyraniad cyfreithlon y gronfa.

Aelodaeth y Bwrdd Cydweithio   

Mae pob awdurdod lleol wedi penodi Cynrychiolydd Perthnasol ac un neu fwy o ddirprwyon. Mae’r Cynrychiolwyr Perthnasol a’u dirprwyon yn swyddogion sydd â chyfrifoldeb digonol i wneud penderfyniadau dros ac ar ran yr awdurdod lleol perthnasol.   

Aelodau Cynghorol   

Os yw’r Cadeirydd yn teimlo bod angen, bydd modd gwahodd y sefydliadau a ganlyn i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Cydweithio mewn rôl ymgynghorol .  

  • Uchelgais Gogledd Cymru, Swyddfa Rheoli Portffolio 
  • Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru 
  • Llywodraeth Cymru (Gogledd Cymru)      
  • Llywodraeth y DU (Tîm Cymru yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Adran Gwaith a Phensiynau) 
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

Bydd aelodau Grŵp Cydlynu Gogledd Cymru: y Gronfa Ffyniant Gyffredin – yn cynnwys y swyddogion a gyflogir gan Gyngor Gwynedd ar ran y Partïon i reoli a gweinyddu’r Rhaglen – hefyd yn bresennol i gefnogi, cynghori ac adrodd i’r Bwrdd Cydweithio.