Rydym yn falch i gyhoeddi fod y broses o wneud cais am newid ar gyfer prosiect SPF yng Ngogledd Cymru bellach wedi’i hymestyn i gynnwys darpariaeth i ofyn am estyniad i ddyddiad gorffen prosiect y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2024.
Er mwyn uchafu’r cyfle i brosiectau orffen yn llwyddiannus; mae’r chwe Cyngor Gogledd Cymru wedi cytuno i ystyried ceisiadau i ymestyn dyddiadau gorffen prosiectau i’r cyfnod Ionawr i Mawrth 2025. Disgwylir i brosiectau ond gofyn am yr isafswm cyfnod sydd ei angen.
Bydd ceisiadau i ymestyn dyddiad gorffen prosiect yn cael eu hystyried fesul achos a dim ond drwy eithriad, ble cyflwynir achos clir y bydd rhoi mwy o amser yn lliniaru risg o danberfformio (o ran gwariant a/neu ganlyniadau) neu alluogi allbynnau / deilliannau ychwanegol i’w cyflawni.
Dylai pob cais fod am yr amser angenrheidiol lleiaf.
Gellir darllen mwy am y drefn newid prosiect yma.