Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 1 o 14
Academi Adra
Ymgeisydd: Adra Tai (Cyf)
Grant: £256,508
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen o gyrsiau pythefnos, gan gyfuno hyfforddiant achrededig a phrofiad gwaith mewn sector gwaith a ddewiswyd gan y cyfranogwyr.
Academi Ddigidol Werdd Conwy
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £383,500
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i fusnesau bach a chanolig er mwyn gwella eu galluoedd digidol a Sero Net yn unol â’u strategaeth fusnes craidd, gan gefnogi busnesau i gyflymu effeithlonrwydd, cynhyrchiant, lleihau carbon a lleihau costau.
Academi Ddigidol Werdd Gwynedd
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun sy’n darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i fusnesau i wella eu galluoedd digidol a Sero Net. Bydd yn cefnogi busnesau bach a chanolig i fod yn fwy effeithlon, yn fwy cynhyrchiol, i leihau eu hôl carbon, ac arbed costau.
Academi Ddigidol Werdd Sir Ddinbych
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £427,894
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i fusnesau bach a chanolig i wella eu galluoedd digidol a net sero yn unol â’u strategaeth fusnes greiddiol, gan gefnogi busnesau i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant a lleihau carbon a chostau.
Academi Ddigidol Werdd Sir y Fflint
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £273,867
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i fusnesau bach a chanolig i wella eu galluoedd digidol a sero net yn unol â’u strategaeth fusnes greiddiol, gan gefnogi busnesau i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant a lleihau carbon a chostau.
Academi Digidol Werdd Ynys Môn
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £367,782
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect hwn yn darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i busnesau er mwyn gwella eu gallu Digidol a Sero Net yn unol â’u strategaeth busnes craidd, cefnogi busnesau i wella effeithlonrwydd, gweithgarwch, lleihau carbon a lleihau costau.
Adfer Melin Llynion
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £100,000
Crynodeb o’r prosiect: I adfer Melin Llynon, adeilad rhestredig gradd 2 yn Llanddeusant, Ynys Môn.
Adfywio Canol Tref Caernarfon
Ymgeisydd: Galeri Caernarfon Cyf
Grant: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Bwriad i brynu, adnewyddu a gosod eiddo gwag masnachol yng nghanol tref Caernarfon.
Adfywio promenâd y Rhyl
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Nod y prosiect hwn yw gwella ardal promenâd poblogaidd y Rhyl er mwyn cyd-fynd â gwaith adfywio parhaus y Rhyl yn ogystal â’r gwaith amddiffyniad arfordirol miliynau o bunnoedd.
Adnewyddu Canolfan Ieuenctid Y Rhyl
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £225,544
Crynodeb o’r prosiect: Adnewyddu Canolfan Ieuenctid Y Rhyl
Adnoddau DM ychwanegol
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £150,000
Crynodeb o’r prosiect: Darparu glanhau amgylcheddol ychwanegol, cynnal a chadw tir ac adnoddau AHNE.
Ail ddehongli Amgueddfa Lloyd George
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd ar ran amgueddfa Lloyd George
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn anelu i ail ddehongli a moderneiddio Amgueddfa Lloyd George, ei pherthynas gyda’r gymuned leol a’i rôl i ddehongli’r gorffennol yn rhyngwladol.