Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 10 o 14
Meithrinfa Gardd a Siop Bron y Nant
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £762,684
Crynodeb o’r prosiect: Pwrpas y prosiect yw darparu cyfleoedd gwaith a datblygiad sgiliau ar gyfer pobl ag anabledd trwy’r model cyflogaeth â chymorth.
Menter Ty’n Llan
Ymgeisydd: Menter Tŷ’n Llan
Grant: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Cyflawni dwy elfen o brosiect ehangach i ddatblygu menter gymunedol Ty’n Llan, Llandwrog. Datblygu’r gegin a 5 o stafelloedd i ymwelwyr.
Mentergarwch – Ynys Môn a Gwynedd
Ymgeisydd: Menter Môn Cyf
Grant: £568,185
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cynnal a datblygu gwasanaeth cymorth busnes yr Hwb Menter, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor, cyfleoedd rhwydweithio, a lle i entrepreneuriaid ddatblygu eu syniadau cychwynnol i mewn i fusnes llwyddiannus.
Môn Ymlaen 2
Ymgeisydd: Cymunedau’n Ymlaen Môn
Grant: £893,291
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect hwn yn wasanaeth Cymorth Cyflogaeth Dwys sy’n ceisio lleihau diweithdra a chyfraddau annweithgarwch (a chyflogadwyedd) ledled Ynys Môn, fydd yn ei dro yn helpu busnesau lleol i lenwi swyddi gwag ac uwchsgilio staff.
Multiply
Ymgeisydd: COPA
Grant: £336,963
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu Rhaglen ‘Rhifedd am Oes’ ar gyfer trigolion cyflogedig a thrigolion di-waith yn Sir y Fflint a Wrecsam. Lluniwyd y rhaglen hon i ddarparu cyrsiau hyblyg, dysgu digidol a thiwtora personol i drawsnewid eu bywydau drwy wella eu sgiliau rhifedd bob dydd.
Multiply Môn
Ymgeisydd: Cymunedau’n Ymlaen Môn
Grant: £683,585
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn cynnwys Môn CF yn cynnal cyrsiau cymunedol ar draws Ynys Môn gyda sgiliau rhifedd cudd wedi’u hymgorffori er mwyn gwella rhifedd oedolion ar draws Ynys Môn.
Natur ar gyfer Iechyd
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £158,400
Crynodeb o’r prosiect: Mae sesiynau wythnosol yn cynnwys sgiliau cadwraeth a gwledig, teithiau cerdded iechyd a natur.
Parc Gwledig Bodelwyddan
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £900,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn datblygu Parc Gwledig ar goetir/parcdir ger Castell Bodelwyddan.
Parc Menter Dyffryn Nantlle
Ymgeisydd: Antur Nantlle Cyf
Grant: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Gwneud gwelliannau hanfodol i unedau gwaith presennol, gwella eu heffeithlonrwydd ynni, a sicrhau eu bod yn addas at ddefnydd busnesau lleol i greu a chynnal swyddi am flynyddoedd i ddod.
Parciau i Bobl
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £130,135
Crynodeb o’r prosiect: Presenoldeb ceidwad ar bob safle i ddarparu cyngor ac arweiniad cadarnhaol i ymwelwyr.
Partneriaeth Sgiliau Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru
Ymgeisydd: The Little Learning Company
Grant: £481,282
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect treftadaeth a sgiliau a fydd yn cefnogi a diogelu hen grefftau, dulliau adeiladu a pheirianneg drwy greu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a rhannu gwybodaeth rhwng amryw safleoedd yn Sir Ddinbych.
Pobl ifanc Ynys Môn – ‘Yn llwyddo gyda’u gilydd’
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Bwriad y prosiect hwn yw cefnogi pobl ifanc Ynys Môn i gyflawni hyd eithaf eu gallu drwy wella sgiliau, llesiant a’u hatal rhag dod yn NEET yn y dyfodol.