Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 11 o 14
Potensial sgiliau a gwaith pobl Gwynedd
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £789,107
Crynodeb o’r prosiect: Nod y prosiect yw cefnogi pobl ifanc ac oedolion ar draws Gwynedd i gyrraedd eu potensial personol drwy gynnig cefnogaeth i unigolion unai i baratoi am waith; symud mewn i gyflogaeth a/neu gynnig cyfleoedd i unigolion hyfforddi a datblygu sgiliau tra mewn cyflogaeth.
Prosiect 11
Ymgeisydd: Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint
Grant: £423,335
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn cynnwys dull aml-asiantaeth ac aml-fodd i leihau camfanteisio, trais a throseddau cyfundrefnol sy’n cynnwys pobl ifanc er mwyn creu cymdogaethau diogel.
Prosiect Cefnogi Busnes yn cynnwys Cronfa Datblygu Busnes
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £1,800,000
Crynodeb o’r prosiect: Pwrpas y prosiect yw darparu cymorth, gwybodaeth a chefnogaeth ariannol sydd ei angen ar fusnesau Gwynedd i ddechrau, datblygu, a ffynnu.
Prosiect Creu Coetir Sir Ddinbych
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £800,000
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella ac ychwanegu at tua 55.5 hectar o dir sy’n eiddo i’r Cyngor ar gyfer storio carbon, bioamrywiaeth a’r gymuned.
Prosiect Cynhwysiant a Gwytnwch Treftadaeth Gymunedol De Wrecsam
Ymgeisydd: Rainbow Foundation
Grant: £1,215,354
Crynodeb o’r prosiect: Cryfhau’r gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol yn Ne Wrecsam.
Prosiect Diwyllesiant
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £1,631,000
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect i gefnogi lles trigolion, cymunedau, amgylchedd a busnesau Gwynedd.
Prosiect Gofal Plant ar Waith
Ymgeisydd: NDNA Cymru
Grant: £87,903
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn cynnig rhaglen gyflogaeth 16 wythnos o hyfforddiant a lleoliadau gwaith â thâl i alluogi cyfranogwyr i ddechrau gyrfaoedd mewn gofal plant ac addysg gynnar fel Cynorthwywyr Meithrin dan Hyfforddiant (TNAs).
Prosiect Lles Cymunedol Conwy
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £577,738
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r Rhaglen Lles Cymunedol yn helpu pobl i gynnal a gwella eu lles. Mae’r rhaglen yn helpu pobl i leihau unigedd a chryfhau cysylltiadau yn eu cymuned leol trwy weithgareddau y maent am gymryd rhan ynddynt a chyfleoedd i wirfoddoli’n lleol.
Prosiect Natur er Budd Iechyd
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £545,454
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r Rhaglen Natur er Budd Iechyd yn darparu cyfleoedd i helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy bodlon trwy wella mynediad i’r amgylchedd naturiol ar lefel leol.
Prosiect Pontio Cymunedau Môn
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £778,526
Crynodeb o’r prosiect: Y prif nôd y prosiect yma, mewn partneriaeth â Medrwn Môn yw datblygu ynys ddyfeisgar a gwydn, lle gall cymunedau fod yn rhan o ddylunio a darparu datrysiadau sy’n seiliedig ar y gymuned ac ar anghenion go iawn.
Prosiect Sero Net Canolfan Hamdden Plas Madoc
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Gymunedol Sblash
Grant: £340,000
Crynodeb o’r prosiect: Lleihau allyriadau carbon yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc, Wrecsam.
Prosiect teledu cylch cyfyng – Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn (drwy’r Bartneriaeth Diogelwch Gwynedd a Môn)
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Gosod teledu cylch cyfyng mewn 2 ardal ar Ynys Môn, yn bennaf Llangefni a Chaergybi. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys gwaith ar golofnau golau penodol.