Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 12 o 14
Prosiect Trawsnewid Canolfan Tennis Wrecsam
Ymgeisydd: Canolfan Tennis Wrecsam Cyf
Grant: £2,000,000
Crynodeb o’r prosiect: Trawsnewid y ganolfan tennis ranbarthol yn Wrecsam.
Prynu becws i gymuned Llanaelhaearn
Ymgeisydd: Cwmni Bro Antur Aelhaearn (1974)
Grant: £350,000
Crynodeb o’r prosiect: Prynu safle becws yn Llanaelhaearn sy’n cynnwys dau adeilad gwag, gyda’r nod o sicrhau parhad i fusnes lleol.
Prynu camerâu ANPR
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £102,000
Crynodeb o’r prosiect: Prynu chwe chamera gwyliadwriaeth arbenigol y gellir eu hailddefnyddio manyleb ANPR.
Pysgod Cregyn Cynaliadwy a Dyframaeth Gogledd Cymru- Môr Ni Gwynedd
Ymgeisydd: Prifysgol Bangor
Grant: £400,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn ymgysylltu â’r sector pysgota ar draws y Sir i asesu’r angen, gyda’r bwriad o greu sector mwy gwydn ac amrywiol.
Rhaglen Cyfiawnder Mewn Diwrnod
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned Gogledd Cymru
Grant: £64,974
Crynodeb o’r prosiect: Mae Cyfiawnder Mewn Diwrnod yn brosiect unigryw sy’n defnyddio actorion proffesiynol a phartneriaid i archwilio materion allweddol am y system cyfiawnder troseddol a phobl ifanc.
Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref
Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £1,500,432
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn cynnwys nifer o brosiectau a fydd yn cael eu gweithredu ar draws saith canol tref a chymunedau cyfagos. Bydd y prosiect o fudd i’r awdurdod lleol, perchnogion eiddo canol y dref, busnesau, grŵp cymunedol, cynghorau tref a’r amgylchedd.
Rhaglen Gwydnwch Cymunedol Gwynedd
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £958,633
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect i roi cefnogaeth i bobl ac i adeiladu gwydnwch cymunedol.
Rhaglen Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £3,107,411
Crynodeb o’r prosiect: Nod Sir Ddinbych yn Gweithio yw mynd i’r afael â thlodi drwy gefnogi trigolion Sir Ddinbych i gael addysg, gwaith neu hyfforddiant.
Rhaglen Welliannau Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas
Grant: £749,275
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen o naw prosiect refeniw a nodwyd fel blociau adeiladu allweddol a galluogwyr i gyflawni’r strategaeth 10 mlynedd ar gyfer Dyffryn Maes Glas.
Rhifedd Byw
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £4,810,950
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect i hyrwyddo rhifedd oedolion mewn ystod eang o gymunedau a lleoliadau gwaith yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn gan wella sgiliau mewn cyd-destun ymarferol sy’n berthnasol iddynt.
Rhwydwaith Sgiliau ac Arloesi Gogledd Ddwyrain Cymru
Ymgeisydd: Prifysgol Wrecsam
Grant: £299,959
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun talebau trosglwyddo gwybodaeth ar gyfer busnesau yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Rhwydwaith Zero Net Gogledd Cymru
Ymgeisydd: Cyngor Busnes Gogledd Cymru
Grant: £126,003
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun ar draws siroedd Gwynedd a Conwy. Gweithgareddau sy’n galluogi, cefnogi ac arwain busnesau a sefydliadau ar draws pob sector ar dwf busnes, wrth anelu at Sero Net a hybu’r economi gylchol.