Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 13 o 14
Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas
Ymgeisydd: Canal & River Trust
Grant: £259,000
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect creu lleoedd celfyddydol dan arweiniad y gymuned.
Sero Net Gwynedd (Cam 2)
Ymgeisydd: Adra Tai (Cyf)
Grant: £300,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyflogi tîm o Wardeiniaid Ynni i annog trigolion ar draws Gwynedd i leihau eu defnydd o ynni, a chynyddu lefelau ailddefnyddio ac ailgylchu er mwyn lleihau gwastraff.
Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £1,017,482
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun a fydd yn cefnogi cyflogwyr i nodi a bodloni anghenion hyfforddiant a bylchau sgiliau yn eu gweithlu. Bydd hyn yn caniatáu i’w gweithwyr ddatblygu sgiliau ychwanegol a fydd, yn ei dro, yn creu twf ac yn cyflawni amcanion strategol y busnes. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig mewn sesiynau grŵp ac unigol yn y gweithle.
Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Ddwyrain Cymru
Ymgeisydd: Coleg Cambria
Grant: £1,840,398
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cefnogi gweithwyr i adnabod a diwallu anghenion hyfforddiant a bylchau o ran sgiliau i gyflawni twf yn y dyfodol ac amcanion strategol yn eu busnes yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Siop ‘Original Factory Shop’ Bwcle
Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £4,813
Crynodeb o’r prosiect: Gweithgareddau cam cyn-gaffael ar gyfer eiddo a elwir yn ‘Original Factory Shop’.
Strategaeth Rheoli Cyrchfan a Thwristiaid; Adnoddau Ychwanegol at yr Haf
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £348,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn darparu mwy o adnoddau glanhau amgylcheddol a chynnal a chadw tir i ymdopi â’r niferoedd ychwanegol o ymwelwyr a chwsmeriaid yn y sir yn ystod haf 2023/24.
Swyddfa Bost a Garej Penrhos
Ymgeisydd: Aberdyfi Community Projects Ltd
Grant: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn hwyluso dod ag adeilad Garej Penrhos a’r Swyddfa Bost yn Aberdyfi i berchnogaeth gymunedol.
Swyddog Meysydd Chwarae a Thîm Cynnal a Chadw/Arolygu
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £370,000
Crynodeb o’r prosiect: Nod y prosiect hwn yn y lle cyntaf fydd ceisio mynd i’r afael â’r materion uniongyrchol sy’n gysylltiedig â datblygu cynnig chwaraeon cynhwysol, gyda’r nod o ddarparu cyfleusterau i safon dderbyniol a diogel. Bydd y prosiect hefyd yn recriwtio Swyddog Meysydd Chwaraeon a Thîm Cynnal a Chadw i oruchwylio’r defnydd, gwaith cynnal a chadw ac archebion meysydd chwarae ar draws y sir.
Synnwyr Gweithio
Ymgeisydd: Y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain
Grant: £426,630
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn gwella sgiliau cyflogadwyedd pobl dros 25 â nam ar y synhwyrau neu anableddau, drwy ddarparu cymorth arbenigol i alluogi’r grŵp targed i sicrhau cyflogaeth neu ddychwelyd iddo, ac aros mewn gwaith, neu symud yn nes at fedru gweithio.
Tanio Arloesedd
Ymgeisydd: Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf (MSParc)
Grant: £803,988
Crynodeb o’r prosiect: Bydd Tanio Arloesedd yn darparu cyfleoedd i fusnesau, cymunedau a phobl ledled Ynys Môn i ffynnu. Gan greu cyfleoedd gwaith lefel uwch newydd, cefnogi twf busnesau, creu mentrau newydd arloesol ac uwchsgilio pobl leol yn y sectorau Digidol ac Ynni.
Teledu Cylch Cyfyng Canol Tref Dinbych
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £55,687
Crynodeb o’r prosiect: Uwchraddio camerâu cylch cyfyng sydd wedi dyddio ar draws tref Dinbych.
Tim o Amgylch y Person Ifanc 2
Ymgeisydd: GISDA cyf
Grant: £557,907
Crynodeb o’r prosiect: Bydd TAPI 2 yn brosiect sydd yn darparu cefnogaeth ddwys, person canolog wedi ei deilwra o amgylch pobl ifanc bregus Gwynedd sydd bellach oddi wrth y farchnad lafur.