Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 14 o 14
TRAC
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £1,222,452
Crynodeb o’r prosiect: Mae prosiect llesiant TRAC yn darparu cymorth i bobl ifanc 11-16 oed y nodir eu bod mewn perygl o ddod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Trafnidiaeth Cymunedol Gwynedd
Ymgeisydd: Siop Griffiths Cyf
Grant: £299,960
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun darparu trafnidiaeth gymunedol ar y cyd gyda mentrau cymdeithasol – sef Siop Griffiths, Partneriaeth Ogwen, Y Dref Werdd, ac O Ddrws i Ddrws.
Trawsnewid Meddyliau Ifanc
Ymgeisydd: EESW Cymru
Grant: £69,833
Crynodeb o’r prosiect: Bwriad y prosiect yw cyflwyno ystod o brosiectau o dan flaenoriaeth Pobl a Sgiliau SPF y DU sydd wedi’u hanelu at bobl ifanc a fydd yn cynnwys darparu gweithgareddau mewn ysgolion i roi’r cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd sy’n gysylltiedig â gwaith a rhoi cipolwg ar lwybrau gyrfa yn y sector STEM yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Twrnameintiau Chwaraeon Ysgol
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £5,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd twrnameintiau chwaraeon mewn ysgolion yn cael eu cynnal rhwng Ionawr a Mawrth 2023.
Tŷ Gwyrddfai (Cam 3) – Labordy Byw
Ymgeisydd: Adra Tai (Cyf)
Grant: £400,000
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor fydd yn cynnwys adeiladu dwy siambr a reolir yn atmosfferig, ar gyfer profion dan reolaeth o ddeunyddiau adeiladu mewn amodau amgylcheddol amrywiol ac eithafol. Bydd y cyfleuster unigryw hwn yn chwarae rhan allweddol wrth gyflymu’r cynnydd tuag at ddylunio tai carbon isel a sero net.
WorkWell
Ymgeisydd: Rhyl City Strategy (RCS)
Grant: £172,356
Crynodeb o’r prosiect: Cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl i ddod o hyd i waith ac aros mewn cyflogaeth.
Ymateb i Argyfwng Costau Byw
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Cymorth ariannol, drwy gynlluniau grant i’n hybiau cymunedol Croeso Cynnes a mentrau banciau bwyd cymunedol.
Ymateb i Gostau Byw
Ymgeisydd: Cyngor ar Bopeth Gwynedd
Grant: £249,337
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn cynnig cyfres o gyfleoedd hyfforddiant (gyda chyflog) fydd yn gwella sgiliau pobl mewn gwasanaethau canolfan alwadau, helpu cwsmeriaid, sgiliau derbynfa a sgiliau gweinyddol.
Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen – Aros ar y Trywydd Iawn
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen
Grant: £374,703
Crynodeb o’r prosiect: Nod Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen yw datblygu ‘pecyn i gryfhau’r sefydliad’ gan eu galluogi i barhau eu proses ailstrwythuro yn dilyn nifer o flynyddoedd o newid sefydliadol.
Ymgyrch Rhifedd ar gyfer Tai Cymdeithasol
Ymgeisydd: Adra Tai (Cyf)
Grant: £181,075
Crynodeb o’r prosiect: Datblygu sgiliau rhifedd ymhlith tenantiaid tai cymdeithasol yng Ngwynedd.
Ymrwymiad Chwaraeon a Gweithgareddau Iau ffit Conwy
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £1,000,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cefnogi pobl ifanc 11-15 oed i gynyddu lefelau gweithgaredd, datblygu gwytnwch iechyd corfforol a meddyliol. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar weithgareddau i annog mwy o ferched i gymryd rhan.