Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 2 o 14
Allgymorth Cymunedol y Cerddwyr (Gogledd Cymru)
Ymgeisydd: Ramblers Cymru
Grant: £88,332
Crynodeb o’r prosiect: Ymgysylltu â chymunedau a grymuso pobl leol i fod yn fwy egnïol yn eu lleoedd lleol ac yn falch ohonynt.
Amgueddfa Bêl-droed Cymru / Amgueddfa Dau Hanner
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant: £1,300,000
Crynodeb o’r prosiect: Amgueddfa pêl-droed genedlaethol newydd ar gyfer Cymru a Wrecsam
Ardal Natur a Coetir Cymunedol, Parc y Coleg
Ymgeisydd: Prifysgol Bangor
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn trawsnewid ardal ym Mharc y Coleg, Bangor, sydd yn ddigroeso ar hyn o bryd, i le tawel i fwynhau a phrofi byd natur.
Balchder Bro Môn
Ymgeisydd: Menter Môn Cyf
Grant: £1,450,361
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn ceisio cynnig gweithgareddau, digwyddiadau, gwelliannau ac ymyraethau ledled Ynys Môn, gan wireddu ac ymateb i’r blaenoriaethau sydd wedi’u hadnabod gan y cymunedau eu hunain a’r blaenoriaethau strategol sydd wedi’u hadnabod gan yr Awdurdod Lleol a sefydliadau gweithgar eraill.
Bang Bangor- Olion
Ymgeisydd: Cwmni’r Frân Wen
Grant: £252,911
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect celfyddydol a diwylliannol gymunedol ar raddfa fawr fydd yn digwydd ym Mangor dros gyfnod estynedig o 20 mis.
Barod
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £64,996
Crynodeb o’r prosiect: Gweithio gyda phobl nad ydynt yn barod i fynd i mewn i’r farchnad lafur i fynd i’r afael â’u rhwystrau
Beicio i Bawb
Ymgeisydd: Antur Waunfawr
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau beicio a gweithgareddau yng Ngwynedd i wella sgiliau, magu hyder ac annog pobl o bob oed a gallu i feicio.
Cael Mynediad at ein Treftadaeth
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych- Gwasanaeth Treftadaeth
Grant: £546,167
Crynodeb o’r prosiect: Galluogi mwy o hygyrchedd, defnydd ac ymwybyddiaeth o ddau Ased Amgueddfa Treftadaeth allweddol yn Rhuthun, Sir Ddinbych; Tŷ hanesyddol rhestredig Gradd 1 Nantclwyd Y Dre a Gradd 2 a restrodd Carchar Rhuthun rhestredig Gradd 1 – yr unig garchar ar ffurf Pentonville sy’n agor fel Atyniad Treftadaeth yn y DU.
Calendr Digwyddiadau Cymunedol Graddfa Fawr Cynaliadwy ar gyfer Sir Wrecsam
Ymgeisydd: Fair Event Management Ltd
Grant: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Cyfres o ddigwyddiadau arloesol yn Sir Wrecsam.
Camau Cefnogol
Ymgeisydd: Coleg Cambria
Grant: £767,381
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu pecyn pwrpasol o gymorth mentora i gyfranogwyr 16-25 oed sy’n symud i Addysg Bellach, sydd angen cymorth ychwanegol, gan gefnogi eu siwrnai ddysgu drwy gydol eu hamser yn y coleg a defnyddio llwybrau datblygu i gyflogaeth bosibl.
Camau Cefnogol
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £1,978,769
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn darparu pecyn pwrpasol o gymorth mentora i bobl ifanc 16-25 oed sy’n symud ymlaen i Addysg Bellach, yn ogystal â chynnig gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles cynhwysfawr i gefnogi’r rhai sy’n symud ymlaen o’r coleg i gyflogaeth.
Canol Trefi – Gosod Sylfaen ar gyfer Buddsoddiad, Balchder a Bwrlwm
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £1,864,500
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r rhaglen adfywio Canol Trefi yn cynnwys sawl cynllun gyda’r bwriad o osod sylfaen i’r trefi ar gyfer buddsoddiad a balchder i’r dyfodol.