Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 3 o 14
Canolbwynt Cymunedol Neuadd y Dref Rhuthun
Ymgeisydd: Cwmni Buddiannau Cymunedol Marchnadoedd Crefftwyr Rhuthun
Grant: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Nod y prosiect hwn yw creu Canolbwynt Cymunedol i bobl o bob oed a gallu yn Rhuthun, gan wella cyfleusterau Neuadd y Farchnad, Neuadd y Dref a’r Hen Orsaf Dân.
Canolfan Ddiwylliant, Treftadaeth a Lles y Farchnad Fenyn
Ymgeisydd: Mind Dyffryn Clwyd
Grant: £1,403,632
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn cynnwys datblygu Hwb twristiaeth a chymunedol i gefnogi adfywio Dinbych. Bydd y prosiect yn dod ag adeilad o bwysigrwydd sylweddol i dreftadaeth Dinbych yn fyw.
Canolfan Digwyddiadau Glyn Rhonwy
Ymgeisydd: Always Aim High Events
Grant: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Cwblhau rhan 1 o gynllun ehangach i ddatblygu Hwb digwyddiadau ar safle Glyn Rhonwy, Llanberis. Bydd yn cynnwys adeiladu warws a gofod amlbwrpas allai gael ei ddefnyddio fel swyddfa / ystafell gyfarfod ac ar gael i’w logi gan y gymuned.
Caru Cymru
Ymgeisydd: Cadwch Cymru’n Daclus
Grant: £378,284
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu ystod o weithgareddau Cadwch Cymru’n Daclus profedig i greu a chefnogi nifer o rolau gwirfoddoli a chyfleoedd cymunedol.
Cefnogaeth Arbenigol i Fentrau Cymdeithasol yng Nghymru
Ymgeisydd: Cwmpas
Grant: £309,350
Crynodeb o’r prosiect: Darparu cymorth busnes cymdeithasol a pherchnogaeth gweithwyr yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Cefnogi Busnesau Lleol Cronfa Allweddol Sir Ddinbych
Ymgeisydd: Cadwyn Clwyd Cyfyngedig
Grant: £2,322,984
Crynodeb o’r prosiect: Cronfa Allweddol Cefnogi Busnesau Lleol Sir Ddinbych drwy roi hwb i gynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, yn enwedig mewn ardaloedd lle maent ar ei hôl hi.
Cefnogi Busnesau Môn 2
Ymgeisydd: Cymunedau’n Ymlaen Mon
Grant: £1,289,456
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu cymorth un i un gan fentor penodol, cymorth gyda’r gwaith o gynllunio busnes a pharatoi llif arian, cymorth gyda chais am Gyfeirnod Treth Unigryw a grantiau ariannol bach ar gyfer busnesau newydd a’r rheiny sydd eisoes yn bodoli.
Coed Môn
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £20,000
Crynodeb o’r prosiect: Gwella ein seilwaith gwyrdd trwy reoli coed a phlannu.
Creu Ynys Actif
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £1,341,095
Crynodeb o’r prosiect: Rhaglen o 3 prosiect i greu Ynys Mon actif.
Creu’r Sbardun
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £991,210
Crynodeb o’r prosiect: Rhaglen o weithgareddau diwylliannol a phrosiectau seilwaith diwylliannol yn Sir Conwy.
Croeso Cynnes
Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £136,086
Crynodeb o’r prosiect: Creu mannau Croeso Cynnes ledled Sir y Fflint i’r holl breswylwyr fynychu.
Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £4,997,497
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r gronfa wedi’i hanelu at gefnogi sefydliadau sy’n canolbwyntio ar y gymuned i gyflawni prosiectau ar draws Conwy a fydd yn rhoi sylw i anghenion lleol ac yn cyfrannu at adeiladu’r ‘Pride in Place’ a’u ‘gwneud yn wahanol’ i’w gilydd’ drwy flaenoriaeth buddsoddi mewn cymunedau a mannau Cronfa Rhannu Ffyniant y DU.