Prosiectau

Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.

Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.

Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.

Conwy Conwy
Dinbych Dinbych
Fflint Fflint
Gwynedd Gwynedd
Wrecsam Wrecsam
Ynys Mon Ynys Môn
Wedi darganfod 167 prosiect
Tudalen 4 o 14

Cronfa Allweddol Cefnogi Busnes Lleol- Conwy

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £2,668,160
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r gronfa’n cefnogi ein busnesau masnachol neu gymdeithasol lleol i adnewyddu a datblygu i’r dyfodol a bydd yn galluogi’r ddarpariaeth o grantiau i gefnogi twf economaidd a chynaliadwyedd.

Conwy

Cronfa Allweddol Cefnogi Sector a Busnes Twristiaeth

Ymgeisydd: Cadwyn Clwyd Cyfyngedig
Grant: £679,000
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn anelu i wella cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw y mentrau micro, bach a chanolig sy’n gweithredu o fewn yr economi twristiaeth a phrofiadau. 

Fflint

Cronfa Allweddol Cymuned a Lle Wrecsam

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant: £1,303,223
Crynodeb o’r prosiect: Cronfa Allweddol Cymuned a Lle Wrecsam.

Wrecsam

Cronfa Allweddol Cymunedol Wrecsam

Ymgeisydd: Cadwyn Clwyd (yn arwain) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam 
Grant: £600,000
Crynodeb o’r prosiect: Cronfa allweddol gymunedol a chefnogaeth cofleidiol i grwpiau cymunedol.

Wrecsam

Cronfa Allweddol Gallu Cymuned Sir Ddinbych

Ymgeisydd: Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
Grant: £2,052,177
Crynodeb o’r prosiect: Cronfa Allweddol Gallu Cymuned Sir Ddinbych. Nod y prosiect yw trawsnewid pŵer a gallu pobl yn y Trydydd Sector ac o fewn cymunedau ledled Sir Ddinbych i greu a darparu gwasanaethau hanfodol mewn byd heriol sy’n newid.

Dinbych

Cronfa Allweddol Grant Cyfalaf a Dichonoldeb Safleoedd ac Adeiladau

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant: £1,936,852
Crynodeb o’r prosiect: Grantiau refeniw a chyfalaf ar gyfer endidau yn Wrecsam.

Wrecsam

Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint

Ymgeisydd: Cadwyn Clwyd a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint
Grant: £953,850
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cefnogi lleoliadau / cyfleusterau / gofodau / grwpiau a arweinir gan y gymuned / sy’n eiddo i’r gymuned, i ddatblygu, cryfhau a gwella isadeiledd cymunedol a phrosiectau yn y gymuned gyda phwyslais yn benodol ar gymunedau lleol a gwasanaethau llawr gwlad o fewn Sir y Fflint.

Fflint

Cronfa Allweddol Lluosi Wrecsam

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant: £2,435,111
Crynodeb o’r prosiect: Cronfa allweddol ar gyfer prosiectau rhifedd yn sir Wrecsam.

Wrecsam

Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £1,760,262
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r gronfa’n cefnogi sefydliadau i gynnal prosiectau ar draws Sir Conwy a fydd yn cyfrannu at ymyriadau Pobl a Sgiliau ac Amlochr (rhifedd oedolion) Cronfa Rhannu Ffyniant y DU.

Conwy

Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Wrecsam

Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant: £1,303,223
Crynodeb o’r prosiect: Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Wrecsam.

Wrecsam

Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol Conwy

Ymgeisydd: Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy
Grant: £1,039,200
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect Adeiladu Gallu yw hwn i gefnogi grwpiau lleol y 3ydd sector i adfer a datblygu’r dyfodol. Mae’r prosiect yn cynnwys Cronfa Allweddol y Sector Gwirfoddol a Rhaglen Hyfforddi Adeiladu Gallu.

Conwy

Cronfa Astudiaeth Ddichonoldeb

Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £288,750
Crynodeb o’r prosiect: 12 astudiaeth dichonoldeb ar gyfer prosiectau posibl yn y dyfodol ar gyfer sbarduno datblygiad economaidd ac adfywio ar draws y sir gyfan.

Dinbych

Tudalen 4 o 14