Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 5 o 14
Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau
Ymgeisydd: Cyngor Gwynedd
Grant: £1,800,000
Crynodeb o’r prosiect: Cronfa grant gystadleuol fydd yn fodd o gefnogi sefydliadau lleol, yn cynnwys mentrau a grwpiau adfywio, i arwain a datblygu prosiectau sydd yn ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol.
Cronfa Grant Sector Wirfoddol Gwynedd
Ymgeisydd: Mantell Gwynedd
Grant: £1,500,000
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r Gronfa yn cynnig cyfleoedd ariannu rhwng £2k a £250k i grwpiau gwirfoddol neu gymunedol wedi eu lleoli yng Ngwynedd.
Cronfa Marchnad y Frenhines
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £262,500
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn cefnogi sefydliad y farchnad masnach newydd yn Adeilad y Frenhines yn y Rhyl.
Cronfa Sir y Fflint
Ymgeisydd: Antur Cymru
Grant: £297,294
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn cynnwys darparu a rheoli tair cronfa grant i ddarparu cymorth cam cyntaf sydd wedi cael ei ddylunio i gefnogi busnesau wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf ar eu siwrneiau arloesi a di-garbon.
Cryfder mewn Rhifau
Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £730,400
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd hyblyg, am ddim i oedolion sy’n 19 oed neu’n hŷn er mwyn eu helpu i wella eu sgiliau rhifedd ac ennill cymhwyster.
Cyfleoedd Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
Ymgeisydd: Uchelgais Gogledd Cymru
Grant: £1,057,713
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun ar draws siroedd Gwynedd, Môn, Conwy, Dinbych a Fflint. Nod y prosiect yw sicrhau’r buddion a’r cyfleoedd mwyaf posibl i drigolion, busnesau a chymunedau ar draws Gogledd Cymru drwy fuddsoddiadau sy’n cyd-fynd â’r Weledigaeth Twf gan gynnwys Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Cyfleusterau Cynhwysol Clwb Criced Parc Gwersyllt
Ymgeisydd: Clwb Criced Parc Gwersyllt
Grant: £500,000
Crynodeb o’r prosiect: Creu pafiliwn clwb criced newydd.
Cyflymu Datgarboneiddio a Chynhyrchiant drwy Dechnoleg a Sgiliau (ADAPTS)
Ymgeisydd: Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch – AMRC Cymru
Grant: £811,083
Crynodeb o’r prosiect: Gweithgareddau sy’n galluogi, cefnogi ac arwain busnesau a sefydliadau ar draws pob sector ar dwf busnes, wrth anelu at Sero Net a hybu’r economi gylchol.
Cymru Gynnes – Cefnogi Cymunedau
Ymgeisydd: Cymru Gynnes
Grant: £185,368
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y peilot hwn yn gweithio gyda chymunedau yn Sir Ddinbych, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd blwyddyn 5,8,9 a 10, y rhai sy’n byw ym mhob eiliadaeth. Bydd yn edrych ar bobl, eiddo, lle a phartneriaethau i sicrhau camau cymdeithasol i wella lles, hyder a sgiliau pobl. Annog gwirfoddoli mwy effeithiol, gan weithio gyda’r gymuned ehangach i addysgu, gwneud pawb yn fwy ymwybodol o effeithlonrwydd ynni, technoleg werdd ac effaith tlodi tanwydd a chostau byw a darparu cyngor am ddim i drigolion er mwyn lleihau biliau ynni a gwella effeithlonrwydd ynni.
Cymunedau a Natur – Croeso Cynaliadwy i Ymwelwyr
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £292,773
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect hwn yn darparu Ceidwaid mewn nifer o safleoedd ymwelwyr allweddol ledled Sir Ddinbych mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn ymwelwyr yn yr ardaloedd hyn.
Cymunedau Carbon Isel – Swyddogion Datgarboneiddio
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant: £393,358
Crynodeb o’r prosiect: Dau swyddog datgarboneiddio i weithio gyda 6 cymuned carbon isel yn sir Wrecsam.
Cynllun Creu Lleoedd Wrecsam
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Grant: £2,146,724
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun creu lleoedd ar gyfer canol dinas newydd trefol Wrecsam.