Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 7 o 14
Datblygu Rhaglen Dysgu Nofio
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £882,026
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu buddsoddiad i foderneiddio’r ddarpariaeth nofio yn y sir Conwy.
Dewch i ni newid bywydau 1000 o bobl ifanc yn Wrecsam mewn 1000 o ddiwrnodau, gyda’n gilydd fel cymuned gyda chariad a gwir gyfle.
Ymgeisydd: WeMindTheGap
Grant: £510,000
Crynodeb o’r prosiect: Rhaglen sydd wedi’i chynllunio i gefnogi pobl ifanc yn Wrecsam.
Dinas Wrecsam: Grymuso Esblygiad Gwyrdd
Ymgeisydd: Gwyddoniaeth Gogledd Cymru
Grant: £1,573,750
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect cyd-greu, gan ddefnyddio chwarae a gwyddoniaeth i gyflawni ymrwymiadau ysbrydoledig ar draws Sir Wrecsam.
Dwylo Diwyd: Tyfu Caru Eryri
Ymgeisydd: Cymdeithas Eryri
Grant: £249,940
Crynodeb o’r prosiect: Cynllun i ddarparu, datblygu a thyfu rhaglen o waith cadwraeth ymarferol a hyfforddiant gyda gwirfoddolwyr yn Eryri a’r cyffiniau.
Dyfodol Cynaliadwy Di-garbon Sir y Fflint
Ymgeisydd: Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch – AMRC Cymru
Grant: £623,322
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r prosiect yn anelu i gynnwys Fforwm Datgarboneiddio Glannau Dyfrdwy yn gyfreithiol, i ddatgloi ei botensial llawn i gefnogi twf gwyrdd.
Ecoamgueddfa Llŷn
Ymgeisydd: Prifysgol Bangor
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y cynllun yn datblygu arlwy Ecoamgueddfa Llŷn sydd wedi bodoli ers 2015, drwy gydweithio i hyrwyddo safleoedd ac adnoddau penodol ym mhenrhyn Llŷn. Bydd yn datblygu gweithgareddau sy’n ymwneud ag archaeoleg, bioamrywiaeth a diwylliant yr ardal.
Gardd Fotaneg a Phyllau Prom y Rhyl
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £42,000
Crynodeb o’r prosiect: Adfywio ardaloedd hamdden yng Ngerddi Botanegol a Promenâd y Rhyl.
Gardd Furiog Fictoraidd Erlas
Ymgeisydd: Gardd Furiog Fictoraidd Erlas
Grant: £264,375
Crynodeb o’r prosiect: Darparu gweithgareddau yn ystod y dydd, addysg a gwaith.
Garddwriaeth Cymru
Ymgeisydd: Prifysgol Wrecsam
Grant: £270,902
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect i ddarparu mwy o gynhyrchiant, proffidioldeb, cydweithio a gwytnwch yn y sector garddwriaeth yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Gogledd Cymru Actif, Iach a Hapus
Ymgeisydd: Gogledd Cymru Actif
Grant: £521,805
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyd-weithio â’r gymuned mewn 2-3 lleoliad sydd a’r angen mwyaf am gefnogaeth yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Gwynedd, i ddatblygu sgiliau a hyder er mwyn canfod atebion cynaliadwy er lles y gymuned yn y tymor hir.
Grymuso Gwynedd
Ymgeisydd: Menter Môn Cyf
Grant: £1,100,000
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn gweithio law yn llaw â Cymunedoli Cyf (Rhwydwaith Menter Gymdeithasol Gwynedd) ar gynlluniau amrywiol sy’n creu gwydnwch cymunedol, ac yn creu atebion cymunedol i heriau sy’n wynebu Gwynedd, gan roi pwyslais ar ardaloedd daearyddol heb ddarpariaeth bresennol.
Gwarchod y Bylchau ar gyfer Pobl Ifanc yn Sir y Fflint
Ymgeisydd: WeMindTheGap
Grant: £562,600
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu llwybr o raglenni i gefnogi bwlch o ran darpariaeth ymgysylltu i ddiwallu anghenion pobl ifanc rhwng 16 – 25 oed ar ôl y pandemig. Mae’n ceisio mynd i’r afael â materion megis eithrio cymdeithasol, unigedd, sgiliau isel a diffyg hyder.