Prosiectau
Yma cewch weld pa brosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn buddsoddiad drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin: Gogledd Cymru.
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i ddarganfod mwy am y prosiectau a’r sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.
Gallwch chwilio am y prosiectau gan eu prif flaenoriaeth buddsoddi neu fesul yr awdurdod lleol cefnogol.
Tudalen 9 o 14
Hyfforddiant Net Sero (Tŷ Gwyrddfai)
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £499,647
Crynodeb o’r prosiect: Nod y prosiect, fydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth ag Adra, yw creu canolfan hyfforddi bwrpasol ar gyfer datgarboneiddio ac ôl-osod tai, yn Nhŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes.
LEAP (Dysgu, Archwilio, Cyflawni, Perfformio)
Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £913,847
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn darparu ystod eang o wasanaethau addysg ac ymyriadau a fydd yn cael eu teilwra i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Bydd y gwasanaethau a gynigir yn gwella’r ddarpariaeth addysg bresennol.
Lle am Byth
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £250,000
Crynodeb o’r prosiect: Adnewyddu cyfleuster storio presennol yn Llyfrgell Llangefni er mwyn creu man croesawgar a ellir ei ddefnyddio gan y gymuned a sefydliadau, yn ogystal â gwasanaethau’r llyfrgell a’i bartneriaid mewnol ac allanol. Peilota rhaglen gynhwysfawr ac amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u dylunio i gyflwyno amrywiaeth o bynciau i drigolion Ynys Môn.
Lle Da – Rhaglen Llunio Lle
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ynys Môn
Grant: £1,485,933
Crynodeb o’r prosiect: Rhaglen Llunio Lle ar gyfer Canol Trefi a Phentrefi mwy Ynys Môn.
Lleoedd Newid – Newid Bywydau
Ymgeisydd: Cymdeithas Frenhinol Mencap (Mencap)
Grant: £189,372
Crynodeb o’r prosiect: Bydd ein prosiect yn gosod Toiledau Lleodd yn Sir Ddinbych a Chonwy i sicrhau bod pobl â nam cymhleth a lluosog yn gallu cael mynediad at gyfleusterau sy’n darparu’r gofod a’r offer sydd eu hangen arnynt i fwynhau gweithgareddau o ddydd i ddydd y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol.
Llwybr at Gyflogaeth – Wrecsam
Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru
Grant: £261,640
Crynodeb o’r prosiect: Amrywiaeth o ymyriadau llwybr cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc.
Llwybrau
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £1,274,349
Crynodeb o’r prosiect: Bydd prosiect Llwybrau yn darparu cymorth i tua 420 o bobl ifanc bob blwyddyn academaidd yn Sir Ddinbych, i leihau’r risg o ymddieithrio oddi wrth addysg, darparu cymorth i ailymgysylltu ag addysg, neu i symud i waith neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11.
Llwybrau (2022-23)
Ymgeisydd: Cyngor Sir Ddinbych
Grant: £297,557
Crynodeb o’r prosiect: Mae Llwybrau yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio yn ôl i addysg.
Llwybrau i Gyflogaeth
Ymgeisydd: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Grant: £292,510
Crynodeb o’r prosiect: Bydd y prosiect yn cyflwyno ystod o gyrsiau hyfforddi llwybrau gan gynnwys cymwysterau achrededig sector-benodol, sgiliau cyflogadwyedd a lleoliadau gwaith mewn sectorau twf a blaenoriaeth yng Nghonwy.
Llwybrau Talent Twristiaeth
Ymgeisydd: Grŵp Llandrillo Menai
Grant: £378,750
Crynodeb o’r prosiect: Mae’r cynllun yn darparu cyfleoedd cyffrous i sefydliadau addysgol yn y maes lletygarwch a thwristiaeth, fydd yn cynnwys profiad gwaith a sgiliau sylfaenol.
Mapiau a Mwy
Ymgeisydd: Partneriaeth Parc Caia
Grant: £357,587
Crynodeb o’r prosiect: Prosiect mentora a gwirfoddoli yn Wrecsam ar gyfer eich pobl 16-24 oed sy’n NEET.
Meddwl a y Bwlch
Ymgeisydd: Cyngor Sir y Fflint
Grant: £105,000
Crynodeb o’r prosiect: Rhaglen cyflogadwyedd dwys.